Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Ioan Huws
Mae Ioan Huws yn byw yn Rotterdam ers wyth mlynedd, lle maeân gweithio fel rheolwr llwyfan gyda Cherddorfa Philharmonig Rotterdam. Trwy ei waith, mae wedi cael y cyfle i deithioâr byd ac i weithio ochr yn ochr â rhai o gerddorion gorauâr byd.
Roedd ei dad yn heddwas, a gan fod y teuluân symud yn rheolaidd oherwydd y gwaith, treuliodd Ioan ei blentyndod mewn sawl rhan o Ogledd Cymru, gan gynnwys Yr Wyddgrug, Bae Colwyn a Chaernarfon. Maeâr profiadau hynny wedi cyfrannu at ei ddealltwriaeth ddofn o wahanol gymunedau yng Nghymru aâr ffurfiau amry...
Mei Gwynedd
Mae Mei Gwynedd yn un o enwau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Gymraeg cyfoes. Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, mae wedi bod wrth galon y sĂŽn gerddoriaeth ers dros dri degawd, gan chwarae rhan allweddol mewn bandiau eiconig fel Beganifs, Big Leaves, Sibrydion a The Peth. Mae hefyd wedi gwneud gyrfa lwyddiannus o'i angerdd dros gerddoriaeth, gan weithio ar draws sawl agwedd ar y diwydiant.
Heddiw, mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd llawrydd, yn ogystal â rhedeg stiwdio a label recordiau. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i lawer drwy ei brosiect poblogaidd Ba...
Geraint Evans
Ă hithau'n benblwydd S4C yn 44 oed, mae Beti George yn holi Geraint Evans - Prif Weithredwr S4C.
Fel mab i weinidog, fe symudodd y teulu sawl gwaith, a bu'n byw yn Three Crosses ger Abertawe, cyn symud i Drawsfynydd, Llanbrynmair ac yna i Bontarddulais.
Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yna i astudio Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.
Bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, cyn ymuno hefo S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.
Mae'n Brif Weithredwr S4C ers mis Ionawr 2025.
M...
Mari Grug
Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da.
Wediâi magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rĂ´l fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, aâr podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau.
Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd GĹľyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd Mari Grug yn ymuno...
Joseff Gnagbo
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo.
Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg.
Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor.
Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid.
Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys...
Gav Murphy
Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau.
Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gwblhau ei radd yn 2007. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Sgriptiau.
Er bod llawer o bobl yn gweld Gav fel y person doniol, y "class clown" sy'n codi...
Sharon King
Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar Ă´l graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain.
Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, aâi hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon.
Mae...
Arwel Hughes
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys MĂ´n.
Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn Ă´l, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth.
Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn...
Nic Parry
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch. Yn ys...
Vaughan Roderick
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb syân adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti aâi Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle maeân cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwynoâr podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones.
Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd aâi fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar Ă´l gwleidyddion y dydd.
Datblygodd y diddordeb...
Hedydd Hughes
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George.
Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir.
Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y...
Dr Simon Brooks
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, syân gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus.
Mae wedi cyfrannuân sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry.
Yn ogystal ââi waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion syân ymwneud ââr iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisĂŻau cyhoeddus yng Nghymru. Simo...
Emyr Gibson
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, syân adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal ââi waith actio, maeân perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grĹľp Trio ers 2013.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle maeân defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion syân byw gydaâr cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MĂ´nFM. Mae h...
Phyllis Kinney
Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nĂ´l yn 1997.
Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar Ĺľr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.
Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y cyfarfu â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Merêd Evans, ac fe briododd y cwpl cyn symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au.
Wedi iddynt ddyc...
Lili Mai Jones
Gwestai Beti George yw y pĂŞl-droediwr Lili Jones o Wrecsam.
Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thĂŽm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf.
Fe gafodd ei derbyn i'r Orsedd llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ac mae hi hefyd yn ymddangos yn y gyfres ffilm boblogaidd 'Welcome to Wrexham' gyda dau actor Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Mae Lili'n sĂ´n sut mae pĂŞl droed a chwaraeon yn m...
Eurig Wyn Jones
Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys MĂ´n, yw gwestai Beti George.
Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain.
Ar Ă´l graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent.
Yn ddiweddarach, buân gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego...
Hannah Parr
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year.
Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.
Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud...
Aled Hall
Maeâr tenor o Gymru Aled Hall wedi perfformio repertoire syân ymestyn o Mozart i Wagner gyda chwmnĂŻau opera a cherddorfeydd ledled y byd.
Feâi ganwyd yn 1968 ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin yn fab fferm. Doedd dim pwysau arno i aros adref i ffermio, ac fe aeth i'r brifysgol i Aberystwyth i ddechrau i astudio cerdd. Mae bellach yn canu mewn tš opera yn Covent Garden, Llundain ers dros 11 mlynedd, ac wedi dilyn gyrfa fel canwr ers 30 mlynedd.
Maeân gantor opera proffesiynol sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr ledled y byd. Mae hefyd yn a...
Ann Davies AS
Etholwyd Ann Davies yn AS Caerfyrddin yn 2024.
Cafodd ei geni aâi magu yn Sir Gâr, ac mae Ann wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Landdarog ers 2017, ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021.
Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyn-athrawes gerdd peripatetig, mae Ann yn gydberchennog meithrinfa leol i blant ac mae wedi ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992. Fe benderfynodd Ann fynd yn AS wedi blynyddoedd o ymgyrchu yn lleol, yn gwasanaethu fel cadeirydd sirol i undeb ffermio, a b...
Iwan Teifion Davies
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru syân ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol aâr opera yng Nghymru a thu hwnt.
Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg.
Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac maeân arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar Ĺ´yl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby.<
Owain Richards
Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig".
Fe gafodd ei fagu ar fferm Caeâr Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai plismon oedd ef am fod wedi tyfu fyny.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn Aberystwyth, aeth ymlaen i'r "Met" yn Llundain ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn Commander. Roedd Owain wedi ei leoli yn Wandsworth borough, yn Tooting fel Ar...
Heledd Williams
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro. Mae Heledd yn un o Ferched y MĂ´r a groesodd FĂ´r yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o Worldâs Toughest Row.
Fe ddechreuodd Merched y MĂ´r - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San SebastiĂĄn de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr 2025. Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y mĂ´r, fe lwyddodd y tĂŽm a'r cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', groesi'r...
Dr Gareth Hallett Davis
Gareth Hallet Davis yw gwestai Beti George.
Fe ddaw yn wreiddiol o bentref bach Pant y Brad, sydd rhwng Tonyrefail a Llantrisant.
Mae wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd gan iddo weithio i gwmni Americanaidd oedd yn cynhyrchu rhaglenni teithio. Mae wedi hwylio'r afon NĂŽl dair gwaith ac wedi cysgu allan yn yr anialwch yng ngwlad yr Iorddonen.
Ar ôl ymweliad â'r Tš Gwyn yn Washington fe benderfynodd ddod i wybod mwy am hanes gogledd America a'r Unol Daleithiau a gwneud ei radd doethuriaeth yn y pwnc. Erbyn hyn mae'n byw yn y by...
Lauren Salter
Mae Lauren Salter, syân fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniauân wythnosol.
Cafodd cryn dipyn o sylw yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg.
Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbae...
Alun Llwyd
Dywed rhai bod twf a datblygiad y sÎn cerddorol Gymraeg i'w briodoli i waith a dygnwch Alun Llwyd. Mae'n un o'r ddau a sefydlodd label ANKST yn 1988, ac 8 mlynedd nôl fe sefydlodd PYST sy'n cynnig gwasanaethau i helpu hyrwyddo recordiau ac Am sydd yn hyrwyddo'r celfyddydau trwy gyfrwng digidol. Mae'n hoff iawn o wylio adar yn ei amser hamdden, ac yn brysur fel aelod o fwrdd Disability Arts Cymru ac yn Is-gadeirydd ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Cawn hanesion difyr ei fywyd yn ogystal â hanes ei gyfnod yn y carchar dros yr iaith.
Rhys Jones
Datblygwr eiddo oâr Sarnau ger y Bala yw gwestai Beti George, ond sydd erbyn hyn yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy.
Doedd Rhys ddim yn rhy hoff oâr Ysgol, ond yn mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored gydaâI Dad ar y fferm, ac yn helpu gydaâi fusnes adeiladu. Fe aeth iâr coleg yn Llundain a chymhwyso fel syrfeiwr siartredig. Mae wedi treulio rhanfwyaf oâi fywyd yng ngwlad Pwyl lle mae ganddo gwmnĂŻau âReal Estateâ. Maeâr busnes wedi mynd ag ef i ddwyrain Ewrop yn ogystal â Sbaen ac mae ganddo...
Annie Morgan Suganami
Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15 mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd.
Yna yn 60 mlwydd oed penderfynodd wireddu breuddwyd a mynd nôl i'r coleg a chael gradd mewn celfyddyd gain. Erbyn hyn mae hi'n artist adnabyddus ac wrth galon ei gwaith mae portreadau urddasol a chynnes o fenywod hšn. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref Dolau ge...
Bethan Rees Roberts
Bethan Rees Roberts yw gwestai Beti George.
Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae Bethan bellach yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Caerdydd.
Mae'n Beirianydd Cemegol, ac wedi gweithio efo'r Tiwb yn Llundain (London Underground), a chwmni Shell.
Ei swydd olaf oedd fel Prif Swyddog Data Shell, lle buân gweithio am 18 mlynedd. Collodd ei swydd wrth iâr cwmni dynnuân Ă´l o ddatblygu Ynni Gwyrdd, ac maeân siomedig o weld y sector yn dirywio.
Treuliodd chwe mis yn California cyn Cofid yn datblygu systemau ynni gwyrdd, gan ddod ââr dechnoleg yn...
Peredur Glyn
Yr awdur a darlithydd Peredur Glyn yw gwestai Beti George.
Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol syân dilyn bywyd yr actor enwog oâr ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber.
Daw Peredur Glyn o Ynys MĂ´n, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.
Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.
Mae Peredur wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheg mlynedd. Bellach maeân Ddarllenydd mewn Ie...
Stephen Rule - Doctor Cymraeg
Mae Stephen yn cael ei adnabod fel y âDoctor Cymraegâ ac yn adnabyddus fel athro Cymraeg, awdur a chrĂŤwr cynnwys. Maeân defnyddioâr cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok a Youtube) er mwyn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn annog a helpu dysgwyr yr iaith i ennill hyder. Fel rhywun a ddysgodd Cymraeg yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd, mae eraill sydd yn wynebu heriau tebyg iddo yn medru uniaethu gydag ef ac mae ei angerdd yn ysbrydoliaeth iddynt. âGorau, Dysgu, Cyd-Ddysguâ yw ei âmottoâ!
Cafodd ei fagu ym mhentref Coed Llai ger yr Wyddgrug mewn ystâd tai cyngor...
Mati Roberts
Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd.
Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.
Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn helpu addysgu dros 200 o blant - a hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs arbenigol yng Nghaerdydd, yn diogelu plant ac yn gofalu am iechyd rhywiol...
Geraint Hughes
Mae'r cwmni heddiw yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint Hughes yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siĹľr.
Mae gan Geraint ugain mlynedd o brofiad o weithioân agos gyda mentrau bwyd-amaeth ar draws Cymru aâr DU i wireddu syniadau a dod o hyd i atebion ar gyfer heria...
Annie Maycox Walker
Dywâr cwmni heddiw ddim wedi cael bywyd hawdd ac mae hynny'n deillio o gyfnod plentyndod pan gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan ei thaid. Mae'n teimlo'n gryf bod angen iddi ddweud ei stori am nad yw'r pwnc yn ei barn hi yn cael ei drin mor agored ac y dyle fe.
Ar hyd y blynyddoedd mae Annie Maycox wedi dioddef o iselder ac roedd hi'n troi at fwyd i leddfu rhywfaint ar yr atgofion. Canlyniad hynny oedd iddi fagu pwysau a chyrraedd dros 20 stĂ´n. Mae'n ddiolchgar am yr help mae wedi cael gan wahanol gyrff a n...
Meinir Gwilym
Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George.
Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grĹľp Pedair.
Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grĹľp. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mor anodd ydi hi bellach i wneud bywoliaeth fel cerddor.
Fe fydd yn trafod crefydd ac fe gawn glywed sut mae hi'n mynd at...
Iolo Williams
Iolo Williams y naturiaethwr, awdur a'r cyflwynydd poblogaidd ar raglenni natur ar BBC Cymru ac ar y rhwydwaith Prydeinig yw gwestai Beti George. Maeân adnabyddus am raglenni fel Springwatch, Autumnwatch aâi gyfres ei hun âWild Walesâ ac mae wedi cyflwyno rhaglenni Radio Cymru, Galwad Cynnar a chyfres Sarn Helen.
Mae'n trafod dylanwad ei Daid arno ac yn sĂ´n am ei Dad fel ei arwr " dyn cadarn, gonest oedd yn trin pawb 'run fath".
Cawn hanesion ei fagwraeth yn Llanwddyn, ei gyfnod yn Ysgol Gynradd Llanwddyn ble 'roedd ei Dad yn Brifathro ac wedyn yn...
Ani Glass
Ani Glass yr artist electro-pop o Gaerdydd yw gwestai Beti George. Enillodd ei halbwm cyntaf Mirores wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae ei hail albwm Phantasmagoria newydd ei rhyddhau. Cawn hanesion difyr ei bywyd o'r sĂŽn gerddoriaeth, i'w chefndir mewn ffasiwn, a'i chariad tuag at Lerpwl a'r Beatles. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae hi wedi croesawu merch fach i'r byd, ac mae hi'n fyddar. Mae Ani yn sĂ´n am ddysgu BSL ac am gyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth gynhwysol. Fe gafodd Ani hefyd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, ac mae'r albwm diweddaraf Phantasmagoria yn gasgliad o ga...
Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025
Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall.
Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gyntaâr flwyddyn - tad a merch yn sĂ´n am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas.
Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gwaith yno yw hyfforddi rygbi merched.
Fe gafodd Beti gwmni Glenda Jones-Williams o Frynaman yn wreiddiol sydd â swydd...
Gwerfyl Eidda
Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop. Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw...
Edwin Humphreys
Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys.
Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd.
Ar Ă´l gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio cerdd - ond wedi iddo raddio, doedd dim digon o waith ac felly penderfynodd gael gradd arall mewn nyrsio.
Tr...
Sioned FĂ´n Jones
Sioned FĂ´n Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George.
Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd yn cael ei gyflwyno i ysbytai, wardiau babis flwyddyn nesa. Maeâr cwmni wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2019. Fe sefydlwyd y cwmni yn...