Rhaglen Cymru

40 Episodes
Subscribe

By: andybmedia

Hanes darlledu a llawer mwy

✂️ Clip this podcast
Aled Eirug, Ofcom & arian parod
#223
Yesterday at 7:54 AM

Aled Eirug yw'r gŵr gwadd - cyn-Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru rhwng 1992 a 2003, cyn-aelod o fwrdd S4C a chyn-gadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru Ofcom.

https://www.ofcom.org.uk/cy

Gwaith y rheoleiddiwr, ariannu cyfryngau cyhoeddus a llawer mwy yw'r maes trafod.

Hefyd, newyddion o bell ac agos am gyllidebau a chymorthdaliadau.

@rhaglencymru yw'r Substanck a chyfrif X a BlueSky.

[email protected]

Cerddoriaeth y bennod:

Arian Monty Python: https://youtu.be/vRsrOsWQNYs?si=7Lun-76mxIusMr4Q

'Money, Money, Money': ht...


"Mae yna heriau mawr, mawr"
#222
Last Thursday at 5:51 AM

Sylw i'w datganiad "dyfodol y cyfryngau yng Nghymru" a gyflwynwyd i Senedd Cymru ddydd Mawrth.

Geiriau trawiadol y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yw teitl y bennod hon.

Trawsgrifiad cyflawn o 17:52 ymlaen: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/16420

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y 'Bell Telephone Hour'!

https://youtu.be/nTSmd04T4ok?si=OYzRicO5LrOLyJ24

Substack: @rhaglencymru

[email protected]

 


Penblwydd Hapus S4C
#221
11/01/2026

Cyfle i glywed am ddyddiau cynnar Sianel Pedwar Cymru ac ambell i foment gofiadwy o'r noson gyntaf un.

Dr Elain Price yw'r gwestai, sgwrs a recordwyd yn 2024 yn nyddiau cynnar y pod.

Ei llyfr 'Nid Sianel Gyffredin Mohoni': https://www.uwp.co.uk/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni

Euryn Ogwen yn trafod noson gyntaf S4C:

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin/2053296-gyntaf-arwyddion-cenedlaethol

Eirion Lewis o'r Awdurdod Darlledu Annibynnol yn egluro y gyfundrefn newydd yn ôl 1982.

https://transdiffusion.org/2025/11/01/serving-two-cultures

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân wreiddiol rhaglen 'Heddiw' BBC Cymru.

...


Perygl propaganda
#220
10/30/2026

Propaganda yw testun y bennod hon.

Yr awdur Simon Chandler yn trafod 'egwyddorion' gwybodaeth ddethol pennaeth cyfathrebu'r Natsïaid, Joseph Goebbels.

Mewn sgwrs am hanes a'r hyn a allai ddod mewn oes o dorri cyfryngau cyhoeddus, mae Simon yn tywys Andy ar hyd llwybr heriol.

I ddysgu mwy am 'lyfr chwarae' Goebbels chwiliwch am "Goebbels' Principles of Propaganda" gan Leonard W. Doob.

Mae gan Simon dwy nofel - 'Llygad Dieithryn' a 'Hiraeth Neifion' - ewch i wefan Gwasg Carreg Gwalch am fwy o wybodaeth: https://carreg-gwalch.cymru/

Arwyddgân arb...


Tim Hartley, Seneddwyr a'r Bîb yn Oz
#219
10/23/2026

Pennod hiiiiiiiiiir: sgwrs + tipyn o faterion cyfoes!!

01' 40" Tim Hartley yn trafod cyfathrebu pobl Bae Caerdydd a thrafferthion y BBC.

38' 45" Holi am ddatganoli darlledu yn Senedd Cymru.

44' 55" GB News yn y Bae.

50' 25" Diweddariad parthed polisi iaith GB Music Radio.

52' 40" Y BBC yn symud cynhyrchu newyddion dros nos o’r DU i Oz!

[email protected] am sylwadau/syniadau

Substack dwyieithog: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m

https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m

...


Heriau'r Celtiaid a GB Tiwns
#218
10/20/2026

Pennod PUM iaith!!

Datblygiadau cyfryngol yn y gwelydydd Celtaidd + cwmni GB News yn mynd yn gerddorol Brydeinig ... ond pa fath o Brydeinig?

[email protected] am sylwadau a syniadau.

Cerddoriaeth gloi: https://youtu.be/R8vXnjU-oXo?si=rEoGRfHuVoNB3h5h

 

 

 


Aberfan a'r Cyfryngau
#217
10/15/2026

Roedd trychineb Aberfan yn achlysur a newidiodd newyddiadura yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Andy yn adrodd sut yr aeth y radio a theledu ati i ohebu a’r ymateb a gafwyd.

Dyma ei Substack Saesneg: https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m

Ac mewn sgwrs ddadlennol mae’r Athro Martin Johnes, cyd-awdur “Aberfan – Government and Disaster”, yn trafod rhan y cyfryngau yn y digwyddiad.

https://www.swansea.ac.uk/cy/staff/m.johnes

https://welsh-academic-press.shopfactory.com/contents/en-uk/p58_Aberfan

Defnyddwyd agoriad ‘Amor volat undiqu...


Rhys Evans BBC
#216
10/12/2026

Un o uwch swyddogion BBC Cymru yw gwestai’r podlediad - Rhys Evans, Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus.

Mae fe ac Andy yn trafod y torriadau i Radio Cymru + dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Mae Substack y pod eisoes wedi synfyfyrio am y sefyllfa: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m

[email protected] am sylwadau a syniadau.

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y gyfres 'That's Life', un o raglenni'r diweddar Esther Rantzen. 


Cloddio am straeon
#215
10/08/2026

Beth yw gweledigaeth DG y BBC Matt Brittin?

Does dim troi yn ôl gan Blaid Cymru ar bwnc datganoli darlledu.

A sgwrs am allu’r camera i hel straeon.

Dyna bynciau trafod pennod #130 o’r pod!!!!

Sianel You Tube Carwyn Rhys Jones: https://www.youtube.com/@carwynrhysjones287

Peidiwch âg anghofio’r Substack – @rhaglencymru

https://rhaglencymru.substack.com/p/ble-mae-prydain-matt-brittin?r=ddc7m

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân un o’r cyfresi teledu mwyaf dadleuol yn y 1960au – ‘Swizzlewick’.
https://youtu.be/u6TmZk9RvR8?si=cE1i2Au4NWFajxsb


CYIG, DCMS ayyb
#214
10/02/2026

Cadeirydd Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg Owain Meirion yw'r gwestai.

Mae'n sôn am deiseb CYIG ynglyn â thoriadau'r BBC a'r ymgyrch sy'n codi yn eu herbyn a thros ddatganoli darlledu. 

https://cymdeithas.cymru/newyddion/lansio-deiseb-dros-ddiogelu-darlledu-cymru-2026-09-29

Yna, gohebu gan Andy yn sgîl cyhoeddi adroddiad Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am Siarter y BBC. 

Yr adroddiad: https://publications.parliament.uk/pa/cm5902/cmselect/cmcumeds/140/report.html

Aelodaeth y Pwyllgor: https://committees.parliament.uk/committee/378/digital-culture-media-and-sport-committee/membership

Stori Newyddion S4C: https...


Y Cyfryngau Ar Brawf
#213
10/01/2026

Yn 2015 darlledwyd cyfres ar BBC Radio Cymru o dan y teitl 'Cyflwr y cyfryngau'.

https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/127258-welsh-language-media-in-spotlight

https://www.bbc.com/cymrufyw/33381868

Yn 2026 dyma gyflwynydd y gyfres honno, y bargyfreithiwr Gwion Lewis, yn diweddaru'r sefyllfa ar y pod.

[email protected] am sylwadau a syniadau.

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Juke Box Jury', https://youtu.be/n344j6IUCVc?si=XqzShL4GUrV-xYex

Substack Andy: https://substack.com/@rhaglencymru

 

 

 


Llais lleol - GTFM
#211
09/25/2026

Gorsaf radio gymunedol Pontypridd a chyffinau sy'n denu sylw'r pod y tro hwn.

Mae GTFM wedi hen ennill ei phlwyf yn y ddwyiaith gydag Ioan Dyer yn un o'i lleisiau cyfarwydd.

Mae Ioan yn sôn am arlwy GTFM yn ystod ymweliad y Brifŵyl â Phontypridd, esblygiad yr orsaf a'i phwsigrwydd i'r gymuned.

[email protected] am negesau a sylwadau.

Mae Substack newydd Andy a'r podlediad yn trafod pob math o bethe cyfryngol yn y ddwy iaith.

Cerddoriaeth cloi: 'Hedgehopper' - arwyddgân "Lunch Box" - rhaglen amser cinio Noele...


Dros Ginio Drosodd
#212
09/24/2026

Pennod sydyn yn sgîl y newyddion am ddiwedd rhaglen Radio Cymru 'Dros Ginio' a 'Dros Frecwast Dydd Sadwrn' fel rhan o dorriadau'r BBC.

https://newyddion.s4c.cymru/article/rhaglen-drafod-ginio-bbc-radio-cymru-ddod-ben

Dyma'r ddolen i bodlediad Cymreag JOMEC gyda Garmon Rhys o'r BBC: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/pod-jomec-cymraeg-82-garmon-rhys/id1541080062?i=1000791193948

Dyma'r pennodau o eiddo Rhaglen Cymru bu sôn amdanynt yn ystod y bennod:

Efa Gruffudd Jones https://rhaglencymru.podbean.com/e/comisiynydd-y-gymraeg/

Karl Davies https://rhaglencymru.podbean.com/e/papur-gwyrdd-gwallus/

@rhaglencymru yw Substack Andy Bell...


Teledu Annibynnol Yn 71
#210
09/22/2026

Mae teledu annibynnol yn 71 oed ar Fedi'r 22ain 2026.

Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol.

Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth cyflwyno'r syniad o gyfundrefn ranbarthol i'r DU + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV.

Ac mae Andy'n rhannu ei atgofion o Blodyn Tatws, TISWAS ac Amy Turtle.

Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales

Mwy am noson gyntaf ITV: https://transdiffusion.o...


Comisiynydd y Gymraeg
#209
09/17/2026

Sgwrs gydag Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, am le mae hi'n sefyll yn y drafodaeth ynglyn â chyfryngau cyhoeddus AC esblygu cyfryngau digidol Cymraeg.

https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/

Yna, tipyn o holi yn Senedd Cymru gan Reform am fwriad Llywodraeth Cymru i ddatganoli darlledu. 

Peidiwch âg anghofio Substack newydd Andy: https://rhaglencymru.substack.com/p/pentwr-pendroni-ai-dyna-substack?r=ddc7m

[email protected]

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Batman', Big Band Westdeutscher Rundfunk: https://youtu.be/ztXy0oUp4hs?si=BgmULLPwt2cyXDU8

 


Problem ai peidio?
#208
09/15/2026

Cyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon Senedd Cymru'n cwrdd ddydd Llun Medi'r 14eg - a thipyn o drafod am yr elfen gyfathrebu.

Aelodau Reform yn codi amheuon am ddatganoli darlledu, y gweinidog yn mynnu llais go iawn i Gymru yn y maes.

Dyma'r cyfarfod cyflawn: http://www.senedd.tv/Meeting/Clip/9409fb1e-5d67-4c2b-af45-044d2631959f?inPoint=00:00:00&outPoint=01:37:08

Peidiwch âg anghofio Substack newydd Andy: https://substack.com/@rhaglencymru

[email protected]

Cerddoriaeth gloi: Finale 'Divertissement' gan Jacques Ibert, alaw a ddefnywdd fel arwyddgân c...


Penblwydd Hapus !!
#206
09/14/2026

Y pod yn ddwy ac amser oedi i synfyfyrio amdano.

Hefyd newyddion am feneter newydd: https://substack.com/@rhaglencymru

Yr ysgrif 'Pentwr Pendroni' gyntaf: https://rhaglencymru.substack.com/p/pentwr-pendroni-ai-dyna-substack?r=ddc7m&utm_campaign=post-expanded-share&utm_medium=web

Cerddoriaeth agor: https://youtu.be/KBMCzSDqDXk?si=tT4e-ZGnS_mpLxf0

Cerddoriaeth gloi: https://youtu.be/UnJDbDOLBJc?si=nPsz8ZlCHNpJg3NN

[email protected]

Holl bennodau'r podlediad ers 2024: https://rhaglencymru.podbean.com

 

 


Ar drothwy penblwydd
#205
09/12/2026

Sgwrs gyntaf un y pod yn ôl yn 2024 wrth iddo nesau at ei benblwydd yn 2!

Siân a Vaughan Roderick yn cadw cwmni i'r podledwr di-brofiad, di-glem yn y bennod hon. 

Ydy pethe wedi gwella ers hynny??!!! Sylwadau/awgrymiadau: [email protected] 

Cerddoriaeth cloi - Arwyddgân 'White Horses': https://youtu.be/FRLJYbXHAuI?si=i4wQjUfm1DZCEuu5

 

 


Pwyllgor Materion Cymreig
#207
09/10/2026

Cynhalwyd cyfarfod o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher y 9fed o Fedi ar ddarlledu yng Nghymru.

Adroddiad a chyd-destun yw'r bennod hon a wnaethpwyd ar dipyn o frys.

Dyma'r cyfarfod cyflawn: https://parliamentlive.tv/event/index/ee828f14-f880-4131-a3b0-4eff43651c1a

https://committees.parliament.uk/oralevidence/18061/pdf

Cerddoriaeth gloi: 'Beyond The Blue Horizon' - bwriadol IAWN!!!!

https://youtu.be/T_c1aAHA-rg?si=QQJDERtYo9Wg8ZRJ

[email protected]

 

 


Papur gwyrdd gwallus?
#204
09/03/2026

Cyfle arall i oedi am 'Sgwrs Fawr' - cyfres y pod sy'n trafod dyfodol cyfathrebu yng nghyd-destun adnewyddu Siarter y BBC.

Karl Davies yw'r gwestai - un sydd wedi edrych ar bapur gwyrdd y llywodraeth ... ac mae ganddo amheuon amdano.

Dyma fe: https://www.gov.uk/government/consultations/watch-this-space-a-new-strategic-direction-for-uk-media-green-paper-and-public-consultation/cadwch-lygad-cyfeiriad-strategol-newydd-ar-gyfer-cyfryngaur-du

[email protected] 

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Rutland Weekend Television': https://youtu.be/4AO1K3JVANU?si=cHwW6kcuiUBiUBoL


Harry Secombe - Y Cymro twymgalon 2
#202
08/30/2026

Ail ran pennod arbennig am un o feibion enwocaf Abertawe.

Harry Secombe (Medi 8 1925 - Ebrill 11 2001).

Un o sêr y Goon Show, perfformiwr yn yr Arwisgiad ym 1969 ac yn ffigwr bwysig yng ngwmni teledu Harlech/HTV.

Cerddoriareth gloi: 'Lucky Strike', un o arwyddgâneoun y Goon Show.

Mwy am y Goons: https://goonshow.org

A'r podlediad amdanynt, Goon Pod: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/goon-pod/id1569929507

Rhifyn o'r podlediad hwnnw gydag Andy yn westai ... am acen!!!:https://podcasts.apple.com/au/podcast/the-last-tram-from-clapham/id1569929507?i=1000652700721

rh...


Harry Secombe - Y Cymro twymgalon 1
#201
08/28/2026

Pennod dwy ran am un o Gymry amlyca cyfryngau'r canrif ddiwethaf. 

Trwy ei wybodaeth o'r Goon Show ac Abertawe + gwaith ymchwil gwreiddiol ... a bach o bendroni ... mae Andy yn ceisio gosod Harry yn ei gyd destun Cymreig A Phrydeinig.

Cerddoriareth gloi: 'If I Ruled The World' o sioe gerdd "Pickwick". 

Mwy am y Goons: https://goonshow.org

A'r podlediad amdanynt, Goon Pod: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/goon-pod/id1569929507

Rhifyn o'r podlediad hwnnw gydag Andy yn westai: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/a-christmas-carol/id1569929507?i=1000680791861

rh...


100 DIwrnod Y Cyfryngau
#203
08/27/2026

Yr Athro Richard Wyn Jones yw'r gwestai amserol wrth i lywodraeth newydd Plaid Cymru gyrraedd carreg milltir.

Ond sut mae'r cyfryngau wedi delio â gwleidyddiaeth ar ei newydd wedd?

Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre

Arolwg y ganolfan ar Etholiad 2026:  https://youtu.be/5bcHjeYrxi8?si=r2I3YNt17tvYS5Vw

Cerddoriaeth gloi: "Sing, Sing, Sing" https://youtu.be/GixLFnLnqcs?si=J8rDwj1XOm0dU0aU

[email protected]


Gwleidydda gwahanol!
#200
08/21/2026

Yr Athro Richard Wyn Jones yn dychwelyd i'r pod i drafod oblygiadau cyfryngol A gwleidyddol etholiad 2026 i Senedd Cymru.

Mae'na drafod hefyd am bodledu ac am sylwebu dros Gymru.

Richard sy'n rhedeg Canolfan Llywodraethiant Cymru:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre

Arolwg y ganolfan ar Etholiad 2026:  https://youtu.be/5bcHjeYrxi8?si=r2I3YNt17tvYS5Vw

Cerddoriaeth gloi: "Sing, Sing, Sing" https://youtu.be/GixLFnLnqcs?si=J8rDwj1XOm0dU0aU

[email protected]


Penblwydd hapus Gwenfô
#195
08/14/2026

Cyfle i ddathlu penblwydd y trosglwyddydd teledu cyntaf i'w godi ar dir Cymru.

Andy hefyd yn dweud tipyn o'i hanes A hanes teledu Cymreig/Cymraeg cyn dyfodiad Gwenfô.

[email protected]

Cerddoriaeth gloi: 'Gwylio'r byd ar y teledu' gan Geraint Jarman

https://youtu.be/YWAYnIZ41bs?si=6NcOYaf7QenQH2Mg

Addasiad o bennod a ryddhawyd yn 2025


Podlediadagedon!
#199
08/06/2026

Am bennod.

Y ffigurau gwrando radio newydd, trafod gohebu ar yr Eisteddfod yn y ddwy iaith, adroddiad Ofcom am sut mae'r Cymry'r defnyddio cyfryngau yn 2026, ofnau Vaughan Roderick am ddyfodol newyddiadura a gobaith newydd S4C - Star Wars yn Gymraeg!

Pennod hir ac amrywiol gyda thipyn o siarad di-flewyn ar dafod.

Ffigurau RAJAR: www.rajar.co.uk

Adroddiad Ofcom: https://www.ofcom.org.uk/cy/media-use-and-attitudes/media-habits-adults/media-nations-2026?language=cy

Cerddoriaeth: Arwyddgân 'Tagesschau', teledu'r Almaen: https://youtu.be/JG4T2_mzo9s?si=V8nAwTruQ5jh1xMG


Y Brifŵyl a'r Bîb
#194
07/31/2026

Perthynas yr Eisteddfod Genedlaethol â'r BBC yn nyddiau cynnar radio yw testun y podlediad y tro hwn.

Am fwy o hanes Eisteddfod 1940 - Eisteddfod y Radio: https://www.cvhs.org.uk/Eisteddfodau/Chapters/Chapter_10.pdf 

[email protected]

Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'All Things Considered' NPR.

Addasiad o bennod a ryddhawyd yn 2025

 


Barn a Chydnabyddiaeth
#198
07/24/2026

Menna Baines, golygydd cylchgrawn 'Barn', yw'r gwestai - mae hi'n sôn am droi'r misolyn yn rhywbeth i'w glywed yn ogystal a'i ddarllen.

Hefyd, mae Menna ac Andy yn trafod y tirlun cyfryngol Cymraeg.

https://barn.cymru/cy

Ac mae'na newyddion o lawenydd mawr. 

Mae'r enwebiadau wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gwobrau Podlediadau Cymraeg. 

https://gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2026

Mae'na gyfle i chi bleidleisio am eich hoff bod Cymraeg ... unrhyw bodlediad !!! 

https://gwobrau.ypod.cymru/eich-hoff-bodlediad-eich-llais

Ac mae'na bodlediadau Cymraeg wedi cyrraedd rhester fer Gwob...


Y Gweithgor, y Gorfforaeth a'r Gaeliaid
#197
07/16/2026

Pennod dair ran.

1) Symud tuag at ddatganoli darlledu: ysgrifenedig-cynlluniau-i-sefydlu-awdurdod-darlledu-chyfathrebu-cysgodol-i-gymru

2) Adroddiad Blynyddol y BBC: https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-annual-report-and-accounts-25-26-cy.pdf

3) Cymru a materion Albanaidd: https://www.bbc.co.uk/programmes/m002z0cw

[email protected]

Cerrddoriaeth gloi: 'Cailleach an airgid' (Gwrach yr arian): https://youtu.be/gIuNtI-rnec?si=7-IUpfDthwZA0Rkh

   

 


Radio lleol, cynlluniau Prydeinig
#196
07/14/2026

Dwy ran i'r bennod hon - trafod radio cymunedol ac adolygiad Siarter Frenhinol y BBC.

Hywel Wiliam trysorydd Rhwydwaith Radio Cymuedol Cymru'n olrhain hanes y sector a'i dyfodol. https://wcrncymru.org

Yna, gwrandawiad Pwyllgor Diywlliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn trafod cyfeiriad y BBC yng nghwmni'r gweinidog Lisa Nandy.

Y cyfarfod cyflawn: https://parliamentlive.tv/event/index/9e2e9b36-1f15-4182-949c-73518c01738a

A Dr. Dyfrig Jones yn sôn am BBC newydd ar sail ffederaliaeth: https://podcasts.apple.com/au/podcast/y-sgwrs-fawr-dyfrig-jones/id1757256668?i=1000747341675

rhaglencymru@h...


S4C, ITV, Y Senedd a mwy
#193
07/09/2026

Mwy o fwletin na phodlediad y tro hwn!!!

Dan sylw:

Adroddiad Blynyddol S4C https://media.cms.v3.s4c.cymru/media/media_assets/96bb0c48-fb3a-4fe3-bbed-bfd078c58d47.pdf

Dêl ITV, Sky a Comcast

https://www.reuters.com/legal/transactional/uks-itv-sell-media-entertainment-unit-comcasts-sky-21-billion-2026-07-06

Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru'n dechreu ar ei waith

https://senedd.cymru/pwyllgorau/pwyllgor-diwylliant-cyfathrebu-y-gymraeg-a-chwaraeon

Adroddiad Blynyddol BBC Alba

https://mgalba.com/mg-alba-highlights-digital-growth-and-future-ambition-in-annual-report/?lang=en

Gwobrau Podlediadau Prydeinig

https://www.britishpodcastawards.com/l...


Wrth ffarwelio ITV ...
#192
07/08/2026

Daeth cyhoeddiad ar Orffennaf y 6ed sy'n golygu nwid ENFAWR.

Mae ITV plc yn cael ei werthu i Sky, cwmni sy’n eiddo i gwmni Americanaidd enfawr Comcast.

https://www.itv.com/news/2026-07-06/itv-agrees-sale-of-media-and-entertainment-business-to-sky-for-up-to-16bn

Erbyn diwedd 2027 fe fydd cyfnod arbennig o deledu (a chynnwys fideo) yn dod i ben.

 

Mewn addasiad o bennod a ryddhawyd i ddathlu penblwydd ITV yn 70 y llynedd, dyma Andy yn synfyfyrio am ddylanwad ITV ar ei fywyd.

Atgofion o Blodyn Tatws, TISWAS ac Amy Turtle ...

Mwy am ITV...


Da bo i'r donfedd hir
#191
07/03/2026

Cyfle i glywed am hanes rhaglenni Cymraeg ar y donfedd hir AKA long wave.

Daeth darlledu ar 1500m/198 kHz i ben diwedd mis Mehefin.

https://www.bbc.com/mediacentre/articles/2026/radio-4-broadcasts-on-long-wave-to-end

https://youtu.be/hCoheqhlQ_k?si=3sjsJl0H6jDfaJM_ 

Roedd y donfedd hir o orsaf Droitwich, a chyn hynny Daventry, yn ffordd o gyrraedd pob rhan o Gymru ... o ganolbarth Lloegr!

Dyma Andy yn adrodd hanes rhan fer o stori hir y long wave.

[email protected]


Trafod torriadau a TWW
#190
06/26/2026

Pennod am hanes a 2026 yw hon.

YrAthro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth yw'r gwestai mewn sgwrs am gwmni TWW a recordwyd ym mis Ebrill.

Cyn hynny, datblygiadau yn y BBC, Senedd Cymru a'r Galeg. 

Mwy am hanes ITV: https://podcasts.apple.com/au/podcast/dathlu-platinwm-itv/id1757256668?i=1000726499207

Mwy am TWW: https://transdiffusion.org/2018/01/14/televising-wales-and-the-west

https://rhaglenni.televault.rocks

[email protected]

Cerddoriaeth gloi: 'Give him the Oooh la la' gan Cole Porter 

https://youtu.be/HUXUTLYNa-M?si=ydg71lYD-2Dr5ZfY


Cynlluniau Ar Y Gweill
#189
06/19/2026

Pennod sy'n ymwenud â newyddion yr wythnos yw hon.

Torriadau yn y BBC, Llywodraeth Cymru'n datgan ei blaenoriaethau ym maes cyfathrebu.

[email protected] am sylwadau.

Cerddoriath gloi: Hen arwyddgân 'Morning Edition', National Public Radio (UDA) https://youtu.be/CviovvTuHK0?si=GzZCps8scLW6--u5

Ai 'Mourning Edition' dylai fod i'r BBC?


Rhys Owen
#188
06/12/2026

Cyfnod newydd cyffrous ym Mae Caerdydd - sut fydd y gohebu A'R gohebwyr y ymateb?

Dyna un o bynciau sgwrs rhwng Andy a Rhys Owen o Golwg - https://golwg.360.cymru

Mae Mr Owen ei bodlediad ei hunan hefyd: https://ypod.cymru/pods/podlediad/craffu360

[email protected] am eich sylwadau

 


Archif Ddarlledu Cymru
#184
06/05/2026

Mae Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn drysor.

Ac yr oedd treulio amser yno ar 'restr fwced' Andy yn ystod ei ymweliad i Gymru'n ddiweddar. 

Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect yr Archif, yw gwestai'r podlediad y tro hwn ac yn sôn am yr heriau a chyfleoedd sy'n ynghlwm â'i waith.

Sianel You Tube yr Archif: https://www.youtube.com/@walesbroadcastdarlleducymru

Corneli Clip yr Archif: https://www.llyfrgell.cymru/archif-ddarlledu-cymru/corneli-clip

[email protected]

Cofiwch gyfrannu i 'Annwyl Matt Brittin' y podlediad: https://podcasts.app...


Radio Cymru'n dathlu
#187
06/05/2026

BBC Radio Cymru yw Gorsaf Radio'r Flwyddyn yng ngwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.

https://www.celticmediafestival.co.uk/show-winners/belfast-2026

I ddathlu'r llwyddiant dyma rannau o sgwrs y pod gyda Phennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd, a gynhyrchwyd ym mis Chwefror.

Da iawn a llongyfarchion Radio Cymru!!

Mae'r orsaf yn rhan o gyfundrefn cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus ac mae'r gyfundrefn hon yn wynebu heriau lluosog.

Mae Rhaglen Cymru am glywed barn ei wrandawyr am ddyfodol y BBC: ffeiliau sain, e-byst neu baragraff wnaiff y tro.

[email protected]...


Annwyl Matt Brittin ...
#186
06/02/2026

Beth hoffech chi ddweud wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol (DG) newydd y BBC?

Dyma gyfle!

Cyhoeddwyd y gyfrol "Dear Matt Brittin" yn ddiweddar, casgliad o ysgrifau gan 'bobl bwysig'.  Er mawr syndod doedd 'na ddim sôn am Gymru a'i hiaith #scerslibilif.

https://themediasociety.substack.com/p/how-to-curate-a-book-in-six-weeks

Mae Rhaglen Cymru am greu fersiwn Gymru o'r llyfr - danfonwch eich llythyrau at Matt ar ffurf e-bost, ffeil sain neu boastiad llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

[email protected]

@rhaglencymru ar X/Twitter a Blue Sky

Podlediad Rhaglen Cymru ar Fa...


Dyfodol y sgwrs genedlaethol: Alun Davies
#183
05/29/2026

Mae llais Alun Davies wedi bod yn rhan o stori datganoli am ddegawd a mwy.

Ar ôl colli ei sedd yn y Senedd, mae e'n achub y cyfle i synfyfyrio am gyflwr cyfryngau Cymreig a Chymraeg.

Mae e hefyd yn datgelu beth sy'n codi ei galon wrth wylio a gwrando.

Sianel Alun Davies ar YT: https://www.youtube.com/@alundavies1061

[email protected] am sylwadau, awgrymiadau a syniadau

Cerddoriaeth gloi: Argwyddgân 'Perry Mason' https://youtu.be/_E2yYrrzbGg?si=KixJCqPgtRsBIEkb